BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy 2022

Mae Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy (SFW) yn wythnos o weithgarwch cymunedol, sy’n dod â phobl at ei gilydd i ysbrydoli, uwchsgilio a grymuso'r gymuned i wneud dewisiadau ffasiwn cynaliadwy. 

Mae'r Gymdeithas Manwerthu Elusennol (CRA) yn noddi Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy, rhwng 16 a 25 Medi 2022, gyda digwyddiadau cymunedol yn digwydd rhwng 19 a 25 Medi 2022. Gallwch gynnal eich digwyddiad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn. 

Dyma bedair thema gweithgareddau'r wythnos: 

  • ailwisgo
  • ailbwrpasu
  • adfywio
  • ailgysylltu

Mae gan bob thema alwadau i weithredu sy'n cefnogi tro tuag at y cynaliadwy ac i ffwrdd o'r cyflym.  

Mae siopau elusennol y DU yn dargyfeirio 339,000 o dunelli o decstilau o safleoedd tirlenwi neu losgi ac yn annog ailddefnyddio yng nghanol cymunedau ar ein strydoedd mawr. Mae cynnydd mewn dylanwadwyr ffasiwn cynaliadwy, defnyddwyr moesegol a chadwyni siopau elusennol gwybodus wedi codi proffil y sector ac wedi ei helpu i fod yn gryfach nag erioed – er gwaethaf Covid a'r cyfnodau clo. Mae hyn yn golygu’r paru perffaith o ran codi mwy o ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd ffasiwn, gan annog y cyhoedd i feddwl am bwy sy'n gwneud eu dillad, sut y cânt eu gwneud, a sut y gellir eu diwygio neu eu hailbwrpasu yn hytrach na'u gwaredu a bod ailddefnyddio yn allweddol. 

Mae SFW yn cynnwys rhaglen lawn o weithdai sgiliau, a digwyddiadau creadigol! Mae SFW eisiau i aelodau CRA fod yn rhan o'r mudiad cymunedol hwn drwy gynnal eich digwyddiad eich hun. Bach neu fawr, mae SFW yn eich gwahodd i gydweithio â nhw a grymuso'r gymuned o'ch cwmpas. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.