BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Gwirfoddoli 2023

Cynhelir yr Wythnos Gwirfoddoli rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn. Mae'n gyfle i gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'n cymunedau a dweud diolch.

Mae’r Wythnos Gwirfoddoli yn cael ei chefnogi a'i dathlu gan sefydliadau bach ar lawr gwlad yn ogystal ag elusennau mwy, adnabyddus, sydd gyda'i gilydd yn cynnal cannoedd o weithgareddau ledled y DU. Mae'r gweithgareddau hyn yn arddangos ac yn dathlu gwirfoddolwyr a'r cyfraniad y mae gwirfoddoli yn ei wneud yn ein cymunedau.

P’un a ydych chi’n rhan o sefydliad gwirfoddol neu'n wirfoddolwr eich hun, i gymryd rhan, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

A yw gweithwyr yn gwirfoddoli yn fuddsoddiad da?

Ydych chi’n poeni y gallai darparu cyfleoedd gwirfoddoli yn eich busnes bach fod yn rhy gostus? Mae hyd yn oed ychydig oriau'r mis yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned – a gall fod buddion eraill i'r gweithle hefyd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Gwirfoddoli | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.