BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Masnach Ryngwladol 2022

Rhwng 31 Hydref a 4 Tachwedd 2022, mae Wythnos Masnach Ryngwladol yn ôl a bydd yn arddangos cyfres newydd sbon o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i helpu busnesau o bob siâp a maint i gynyddu eu potensial byd-eang.

Bydd busnesau'n gallu darganfod mwy am fentrau Strategaeth Allforio allweddol, fel y Gwasanaeth Cymorth Allforio a'r Academi Allforio.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  https://www.events.great.gov.uk/website/8822/

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu ystod o gymorth, arweiniad a chyngor a all eich helpu lle bynnag yr ydych ar eich taith allforio. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarganfod mwy https://businesswales.gov.wales/export/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.