BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Tech Cymru – 13 i 17 Gorffennaf 2020

Cynhelir Wythnos Tech Cymru am y tro cyntaf rhwng 13 ac 17 Gorffennaf 2020.

Bydd yr ŵyl rithwir unigryw hon o weminarau, gweithdai a digwyddiadau digidol yn arddangos ehangder, cryfder ac amrywiaeth diwydiant technoleg ffyniannus Cymru.

O arweinwyr technoleg byd-eang i fusnesau newydd, bydd Wythnos Tech Cymru yn rhoi sylw i gyflawniadau ac arloesedd y bobl a’r sefydliadau yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Technology Connected.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.