BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Twristiaeth Cymru 2022

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 yn gyfle i safleoedd twristiaeth ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o'r sector ac arddangos ansawdd cynnig twristiaeth Cymru i dwristiaid cartref a rhyngwladol yn y DU.  

Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 rhwng 16 Mai a 22 Mai 2022. Os oes gennych ddigwyddiad mewn golwg, yna lawrlwythwch y pecyn briffio sy'n cynnwys templed o lythyr a chyngor ar sut i roi’ch digwyddiad at ei gilydd ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru. 

Bydd Cynghrair Twristiaeth Cymru hefyd yn cyhoeddi manylion unrhyw ddigwyddiadau ar eu gwefan. I gael mwy o wybodaeth ewch i Wales Tourism Week - Wales Tourism Alliance (wta.org.uk)

Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae amrywiaeth enfawr o rolau ar gael, o weithio mewn bariau a bwytai ar draethau, i westai pum seren ac atyniadau i ymwelwyr. I gael mwy o wybodaeth ewch i Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.