BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Canghellor yn cyflwyno mesurau pellach y Cynllun Cyllidol Tymor Canolig yn gynharach

Mae Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt, wedi cyflwyno nifer o fesurau Cynllun Cyllidol Tymor Canolig 31 Hydref yn gynharach.

Yn ei ddatganiad, cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn gwrthdroi bron pob un o’r mesurau treth a amlinellwyd yn y Cynllun Twf na ddeddfwyd ar eu cyfer yn y senedd.

Ni fydd y polisïau treth canlynol yn cael eu dwyn ymlaen mwyach:

  • Torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm i 19% o Ebrill 2023. Bydd y gyfradd dreth incwm sylfaenol yn aros ar 20% am gyfnod amhenodol felly.
  • Torri treth ar ddifidendau 1.25 o bwyntiau canran o Ebrill 2023. Bydd y cynnydd 1.25 o bwyntiau canran, a ddaeth i rym yn Ebrill 2022, yn parhau i gael ei weithredu.
  • Diddymu diwygiadau 2017 a 2021 i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (gelwir yn IR35 hefyd) o Ebrill 2023. Bydd y diwygiadau’n parhau i gael eu gweithredu.
  • Cyflwyno cynllun siopa newydd heb dalu TAW i ymwelwyr â Phrydain nad ydynt yn dod o’r DU.
  • Rhewi cyfraddau treth ar alcohol o 1 Chwefror 2023 am flwyddyn. 

Adolygiad o’r cymorth gyda biliau ynni
Mae’r Gwarant Pris Ynni a’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn cynorthwyo cartrefi a busnesau gyda chostau cynyddol ynni, a dywedodd y Canghellor yn glir y byddant yn parhau i wneud hynny o hyn tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, gan edrych y tu hwnt i fis Ebrill, bydd adolygiad dan arweiniad y trysorlys yn cael ei lansio i ystyried sut i gynorthwyo cartrefi a busnesau gyda biliau ynni ar ôl Ebrill 2023. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Y Canghellor yn cyflwyno mesurau pellach y Cynllun Cyllidol Tymor Canolig yn gynharach - GOV.UK (www.gov.uk) 

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ddatganiad y Canghellor ar y Cynllun Cyllidol Tymor Canolig i gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ddatganiad y Canghellor ar y Cynllun Cyllidol Tymor Canolig (17 Hydref 2022) | LLYW.CYMRU

    


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.