BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Canghellor yn cyhoeddi Cynllun Twf newydd

Heddiw (Dydd Gwener 23 Medi), datgelodd y Canghellor ei Gynllun Twf.

  • Y Canghellor yn datgelu cynllun twf newydd, gan fynd i’r afael â chostau ynni er mwyn gostwng chwyddiant, cefnogi busnesau a helpu cartrefi..
  • Y cynnydd yn y dreth gorfforaeth wedi’i ganslo, gan ei chadw ar 19% wrth i’r llywodraeth anelu at duedd o 2.5% yn y gyfradd twf.
  • Cyfradd sylfaenol treth incwm i’w thorri i 19% yn Ebrill 2023 – blwyddyn yn gynharach nag y cynlluniwyd – gyda 31 miliwn o bobl yn cael cyfartaledd o £170 yn fwy bob blwyddyn.
  • Bydd toriadau i’r Dreth Stamp yn helpu pobl ar bob lefel o’r farchnad eiddo ac yn golygu na fydd 200,000 o bobl sy’n prynu cartref bob blwyddyn yn gorfod talu’r dreth o gwbl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.