BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – canllawiau diweddaraf

Mae llywodraeth San Steffan wedi adolygu telerau’r cynllun, ac wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (y Cynllun) yn parhau ar y lefel gyfredol o 80% o’r cyflogau arferol am yr oriau na chânt eu gweithio, ac yn cael ei ymestyn tan ddiwedd Ebrill 2021.

Gallwch wneud hawliadau mis Rhagfyr nawr

Gallwch gyflwyno eich hawliadau ar gyfer cyfnodau mis Rhagfyr nawr, a rhaid gwneud hyn erbyn 14 Ionawr.

Os oes gennych chi weithwyr ar ffyrlo oherwydd effeithiau’r coronafeirws ar eich busnes, gallwch hawlio am y cyfnodau o absenoldeb â thâl maen nhw’n eu cymryd ar ffyrlo, gan gynnwys gwyliau’r banc fel dydd Nadolig neu ŵyl San Steffan.

Os yw’ch gweithiwr ar gyfnod ffyrlo hyblyg, gallwch gyfrif unrhyw amser sy’n cael ei gymryd fel gwyliau fel oriau ffyrlo yn hytrach nag oriau gwaith. Mae hyn yn golygu y gallwch chi hawlio 80% o’u cyflogau arferol am yr oriau hyn. Ni ddylech roi gweithwyr ar gynllun ffyrlo dim ond achos eu bod nhw’n cymryd absenoldeb â thâl.

Er mwyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw a bodloni’r amserlenni cau misol, dyma restr o ddyddiadau allweddol:

  • 14‌‌ Ionawr‌‌ 2021 – dyddiad cau cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Rhagfyr 2020, erbyn 11‌‌:59pm
  • 15‌‌ Chwefror‌‌ 2021 – dyddiad cau cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Ionawr 2021, erbyn 11‌‌:59pm
  • 15‌‌ Mawrth 2021 – dyddiad cau cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Chwefror 2021, erbyn 11‌‌:59pm
  • 14‌‌ Ebrill 2021 – dyddiad cau cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Mawrth‌‌ 2021, erbyn 11‌‌:59pm
  • 14‌‌ Mai‌‌ 2021 – dyddiad cau cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Ebrill 2021, erbyn 11‌‌:59pm

Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.