BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni: cyflenwadau ynni ansafonol – galwad am dystiolaeth

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod nad yw rhai sefydliadau’n gallu elwa o’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (EBRS). Y rheswm am hyn yw oherwydd bod dull darparu’r EBRS yn golygu bod angen cyflenwr trwyddedig er mwyn cymhwyso’r gostyngiad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio tystiolaeth gan sefydliadau nad ydynt yn gallu elwa o’r cynllun oherwydd eu bod yn gyflenwyr ynni anhrwyddedig neu’n cyflenwi ynni i fusnesau mewn ffyrdd ansafonol.

Y dyddiad cau i ymateb i’r arolwg yw 9 Rhagfyr 2022. I gael rhagor o wybodaeth a llenwi’r arolwg, dilynwch y ddolen ganlynol Energy Bill Relief Scheme: non-standard supplies of energy - call for evidence - Department for Business, Energy and Industrial Strategy - Citizen Space
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.