Heddiw (23 Medi 2022), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gostyngiadau yn ystod y flwyddyn i gyfraddau Yswiriant Gwladol a chanslo’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel treth ar wahân.
Dyma’r prif newidiadau:
- Bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu torri 1.25 pwynt canran i gyflogeion, cyflogwyr a’r rhai hunangyflogedig, gan wrthdroi, i bob pwrpas, y cynnydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2022 ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth. Bydd y toriad hwn yn effeithiol o 6 Tachwedd 2022
- Ni fydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol o 1.25% a oedd i’w chyflwyno o Ebrill 2023 yn cael ei chodi ychwaith
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i National Insurance increase reversed - GOV.UK (www.gov.uk)