BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf ar y Gronfa Cadernid Economaidd i BBaCh

Yn sgil y niferoedd enfawr o geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd i BBaCh, rydym yn cysylltu â busnesau i’w hysbysu bod eu ceisiadau yn cael sylw cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych chi wedi derbyn neges eto, gallwn eich sicrhau y byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Hoffem ddiolch i chi hefyd am eich amynedd yn ystod yr amser anodd hwn.

Os hoffech unrhyw gymorth ychwanegol, ewch i wefan Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.