BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd, penodol i arddangos cyfleoedd am brentisiaethau yng Nghymru a’i gwneud yn haws nag erioed i recriwtio prentisiaid.

Mae’r Gwasanaeth yn rhoi cyfle i fusnesau hysbysebu, rheoli ac olrhain eu prentisiaethau gwag, gan gynnig adnodd costeffeithiol ar gyfer recriwtio a chyfle i gyrraedd at ystod eang o dalent.

Mae proffiliau cyflogwyr hefyd yn cael eu cynnig er mwyn rhoi cyfle i chi hyrwyddo eich busnes a’r cyfleoedd sydd ar gael gennych.

Gwnewch ddewis doeth a recriwtio prentis.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/recriwtio-prentis-canllawiau-i-gyflogwyr

Hysbysebwch eich prentisiaethau gwag yma: https://llyw.cymru/rheoliprentisiaethau

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.