BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Prif Weinidog i gyhoeddi’r camau cyntaf tuag at lacio’r cyfyngiadau

O yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth 2021) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig.

O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn dychwelyd. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 yn eu holau a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau.

Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.

Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn ailagor ar gyfer apwyntiadau o ddydd Llun ymlaen.

O ddydd Llun 22 Mawrth 2021 ymlaen, bydd manwerthu nad yw’n hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol, wrth i’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei werthu mewn siopau sydd ar agor ar hyn o bryd gael eu codi. Bydd canolfannau garddio yn cael agor hefyd.  Bydd pob siop, gan gynnwys yr holl wasanaethau cyswllt agos, yn cael agor o 12 Ebrill 2021 – yr un dyddiad ag yn Lloegr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.