BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Rheoleiddiwr Pensiynau: Eich atgoffa o’ch cyfrifoldebau pensiwn gweithle

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi parhau i fonitro pensiynau gydol argyfwng y pandemig, gan sicrhau eu bod yn cefnogi cyflogwyr a’r rhai sy’n cynilo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Efallai bod eich busnes wedi newid yn sgil COVID-19, ond nid yw eich cyfrifoldebau tuag at eich staff wedi newid.

Mae’n rhaid i chi:

  • Barhau i asesu a rhoi pensiwn i staff cymwys
  • Parhau i wneud y cyfraniadau cywir ar amser
  • Cwblhau eich dyletswyddau ail-ymrestru a’ch datganiad cydymffurfiaeth

Os yw’ch staff yn gweithio neu ar ffyrlo, ni ddylent golli eu pensiwn.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau cyflogwyr y Rheolydd Pensiynau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.