BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n fusnes bwyd gyda bwyd dros ben?

Gall gormodedd mewn busnesau bwyd godi am sawl rheswm; er enghraifft, gor-gyflenwi, gor-archebu, stoc tymhorol darfodedig, oddi ar y fanyleb, problemau pecynnu, a threialon cynhyrchu. Drwy ddargyfeirio'r stoc dros ben hwn i FareShare Cymru, byddwch yn helpu cannoedd o elusennau ledled Cymru.  

Nod Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru yw helpu i'w gwneud hi'n hawdd i fusnesau bwyd a diod o Gymru roddi eu cynnyrch dros ben, drwy oresgyn unrhyw rwystrau rhag rhoi.

Gallai hyn gynnwys:

  • Sicrhau bod bwyd yn 'barod i'w roddi' o ran sut mae wedi cael ei becynnu neu ei storio
  • Talu am gostau cynaeafu, llafur, pecynnu neu storio
  • Talu am incwm coll o ddargyfeirio o dreulio anaerobig

Mae cyllid ar gael tan 2025 i'w gwneud yn gost-niwtral i roddi eich bwyd dros ben drwy dalu costau cynaeafu, llafur, pecynnu, storio neu gludo bwyd dros ben. Gall y gronfa hefyd wrthbwyso unrhyw incwm coll yn sgil rhoi bwyd bwytadwy a fyddai fel arall wedi mynd i dreulio anaerobig, felly cysylltwch â swp@fareshare.cymru i drafod.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y wybodaeth ganlynol Bwyd dros ben ag amcan - FareShare Cymru
  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.