BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n symud nwyddau i Ogledd Iwerddon?

Ydych chi’n symud nwyddau i Ogledd Iwerddon?

Mae newidiadau i’r ffordd y symudir nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau wasanaeth i’ch helpu:

  • Y Gwasanaeth Cymorth Masnachwyr (TSS): Bydd y gwasanaeth am ddim hwn a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn eich tywys drwy unrhyw newidiadau sydd angen i chi eu gwneud, a gall gwblhau datganiadau tollau ar eich rhan. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o ddeunyddiau addysg, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein, gweminarau a chanllawiau “sut mae..”.
  • Y Cynllun Cymorth Symud (MAS): Mae cymorth am ddim, gan gynnwys llinell gymorth bwrpasol, ar gael ar gyfer masnachwyr a busnesau sy’n symud anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion cysylltiedig o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Mae’r cynllun hefyd yn golygu na fydd angen i fasnachwyr dalu costau tystysgrif iechyd, a fydd yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU.

Mae’r canllawiau diweddaraf ar Brotocol Gogledd Iwerddon ar GOV.UK, gan gynnwys gwybodaeth am symud nwyddau i, o, a thrwy Ogledd Iwerddon.

Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.