BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yma i Helpu – cymorth i fusnesau bwyd

Er mwyn parhau i weithredu yn ystod COVID-19, mae llawer o fusnesau bwyd sefydledig wedi arallgyfeirio i ddanfon bwyd, gwasanaethau tecawê a gwerthu ar-lein. Cafwyd cynnydd hefyd yn y bobl sy’n coginio gartref ac yn gwerthu eu bwyd yn lleol neu ar-lein.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i fusnesau sefydledig a newydd i’w helpu i fynd i’r afael â heriau pandemig COVID-19.

Bydd ymgyrch ‘Yma i Helpu’ yn cynnig arweiniad ac yn hyrwyddo arferion gorau i helpu busnesau bwyd i gydymffurfio â gofynion hylendid a diogelwch bwyd a’r ffordd orau o ymateb i effeithiau COVID-19.

Dysgwch sut i:

  • newid eich model busnes
  • dechrau busnes bwyd yn y cartref
  • ailagor eich busnes bwyd

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ASB.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.