Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y rheolaethau mewnforio ar nwyddau'r UE sy'n weddill yn cael eu cyflwyno eleni mwyach.
Yn hytrach, bydd masnachwyr yn parhau i symud eu nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr fel y maen nhw nawr.
Mae ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar yr Wcráin, a'r cynnydd diweddar mewn costau ynni byd-eang, wedi cael effaith sylweddol ar gadwyni cyflenwi sy'n dal i adfer yn dilyn y pandemig. Felly, mae llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad y byddai'n anghywir gosod gofynion gweinyddol newydd ar fusnesau a allai drosglwyddo'r costau cysylltiedig i ddefnyddwyr sydd eisoes yn wynebu pwysau ar eu cyllid.
Bydd y rheolaethau a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2021 ar fewnforio anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion, sydd â'r risg uchaf, yn parhau i fod yn gymwys ochr yn ochr â'r rheolaethau tollau sydd eisoes wedi'u cyflwyno.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i New approach to import controls to help ease cost of living - GOV.UK (www.gov.uk)