BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymddiried – Media Grants Cymru

person recording a pod cast

Os ydych chi’n gweithio yn y cyfryngau neu'n gobeithio cael gwaith yno ac angen cymorth ariannol i ddatblygu eich sgiliau, gall Ymddiried helpu.

Maen nhw’n cynnig cefnogaeth ariannol i:

  • unigolion er mwyn ehangu eu sgiliau – o’r cyfryngau traddodiadol, fel teledu, ffilm, radio, i’r cyfryngau digidol, fel podlediadau, realiti rhithwir a chynnwys i’w ffrydio (e.e. drwy YouTube)
  • sefydliadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgol ar gyfer y diwydiannau creadigol a mentrau cymunedol

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan - Ymddiried


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.