Bydd busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni, fel gweithgynhyrchwyr dur a phapur, yn cael cymorth pellach ar gyfer costau trydan gan fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau manylion cynllun iawndal y Diwydiannau Ynni Dwys.
Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn am 3 blynedd arall a bydd ei gyllideb dros ddwywaith y cyfanswm presennol.
Mae'r cynllun yn rhoi rhyddhad i fusnesau ar gyfer costau Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS) a mecanwaith Cymorth Prisiau Carbon yn eu biliau trydan, gan gydnabod bod prisiau trydan diwydiannol y DU yn uwch na phrisiau gwledydd eraill. Bellach, bydd y cynllun hefyd yn rhoi cymorth i gwmnïau sy'n gweithgynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i High energy usage businesses to benefit from further government support - GOV.UK (www.gov.uk)