BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghori ar Gam 3 yr IETF

Mae’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ), ar y cyd ag Innovate UK KTN, yn cynnal gweminar am 10am ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 i gyflwyno’r cwmpas a’r dull cyflwyno arfaethedig ar gyfer Cam 3 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) gwerth £185 miliwn.

Mae’r IETF yn cynorthwyo busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i newid i ddyfodol carbon isel, a lleihau eu biliau ynni a’u hallyriadau carbon trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a datgarboneiddio yn ymwneud â’r broses ddiwydiannol ei hun. 

Bydd y digwyddiad ymgynghori hwn yn cyflwyno’r cwmpas, y rheolau cymhwysedd a’r broses ymgeisio arfaethedig ar gyfer y cystadlaethau Cam 3 er mwyn sicrhau bod yr IETF yn parhau i fod yn addas i’r diben ac y bydd yn galluogi safleoedd diwydiannol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddatgarboneiddio eu prosesau diwydiannol. 

Bydd y weminar o fudd i sefydliadau a allai ddymuno gwneud cais yng Ngham 3 pan fydd yn agor yn 2024, gan gynnwys safleoedd diwydiannol nad ydynt wedi gallu manteisio ar y rhaglen yng Nghamau 1 a 2.

Bydd y weminar o ddiddordeb i:

  • Gwmnïau diwydiannol o bob maint
  • Cwmnïau mwyngloddio a chwarela
  • Cwmnïau adfer ac ailgylchu deunyddiau
  • Canolfannau data
  • Darparwyr technoleg effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio
  • Darparwyr cyllid  
  • Awdurdodau Lleol 

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y weminar, dewiswch y ddolen ganlynol Summary - Industrial Energy Transformation Fund, Phase 3 Consultation (cvent.com) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.