BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar rannu eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion prisio

Ers dros 50 mlynedd, roedd talwyr ardrethi a oedd yn meddiannu mwy nag un uned o eiddo mewn adeilad a rennir gyda busnesau a sefydliadau eraill yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi annomestig (NDR) yn seiliedig ar y rhagosodiad canlynol:

  • Lle'r oedd eu hunedau eiddo yn gyffiniol (yn cyffwrdd), roeddent yn cael un bil ardrethi.
  • Lle'r oedd yr unedau o eiddo'n cael eu gwahanu gan fusnes arall neu arwynebedd mewn cyd-ddefnydd, roeddent yn cael bil ardrethi am bob uned o eiddo. 

Er enghraifft, roedd hyn yn golygu:

  • Lle'r oedd busnes yn meddiannu dau lawr cyffiniol adeilad neu ddwy ystafell sy'n cael eu gwahanu gan wal yn unig, roeddent yn cael un bil ardrethi.
  • Lle'r oedd y busnes yn meddiannu dau lawr wedi'u gwahanu gan lawr arall a ddefnyddir gan fusnes arall, neu'n  meddiannu dwy ystafell ar y naill ochr a'r llall i goridor cyffredin, roeddent yn cael dau fil ardrethi. 

Yn 2015, dyfarnodd y Goruchaf Lys, yn achos Woolway (VO) v Mazars [2015] UKSC 53 (“penderfyniad Mazars”) y dylai'r prawf ymwneud â natur ddaearyddol yr eiddo ac, o ganlyniad, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi newid ei harfer.

Ers dyfarniad y Goruchaf Lys, mae unedau eiddo ar wahân mewn adeilad a rennir yn cael eu trin fel unedau ardrethu  ar wahân ac mae bil ardrethi yn cael ei ddyroddi am bob uned, ni waeth a ydynt o dan yr un feddiannaeth ac yn gyffiniol. O ganlyniad, mae rhai talwyr ardrethi a oedd yn cael un bil ardrethi yn flaenorol bellach yn cael dau neu fwy.  Mewn rhai achosion, maent wedi gorfod talu mwy mewn ardrethi annomestig o ganlyniad i'r newid hwn, ond mewn achosion eraill, mae biliau wedi gostwng.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ar gynnig Llywodraeth Cymru i adfer elfennau perthnasol arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn y dyfarniad.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru yn unig, ond mae newidiadau tebyg eisoes wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, i adfer arfer blaenorol Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn perthynas ag ardrethu yn Lloegr.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Mehefin 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/rhannu-eiddo-annomestig-yng-nghymru-ddibenion-prisio 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.