BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar weithredu'r drefn contractau tanysgrifio newydd

laptop and digital tick box symbols

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar weithredu trefn contractau tanysgrifio newydd o dan Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024. Nod y drefn hon yw darparu amddiffyniadau cryfach i ddefnyddwyr mewn gwasanaethau tanysgrifio, gan fynd i'r afael â materion fel taliadau cudd, prosesau canslo anodd, ac adnewyddu awtomatig annisgwyl.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion mewn perthynas â:

  • hawliau canslo yn y cyfnod callio: dychweliadau ac ad-daliadau
  • datrysiadau canslo am dorri dyletswyddau
  • ad-dalu ad-daliadau
  • telerau cytundebol ar gyfer gadael contract
  • trefniadau ar gyfer gadael contract
  • hysbysiadau gwybodaeth
  • gwybodaeth cyn y contract

Mae'r llywodraeth yn ceisio mewnbwn ar y ffordd orau o weithredu'r newidiadau hyn er mwyn sicrhau dull teg a chytbwys i ddefnyddwyr a busnesau. Hoffai glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn contractau tanysgrifio, ond yn benodol: 

  • masnachwyr unigol a'u cynrychiolwyr sy'n ystyried y byddant o fewn cwmpas y rheolau tanysgrifio
  • busnesau sy'n cefnogi masnachwyr i ddarparu eu gwasanaethau tanysgrifio, gan gynnwys llwyfannau e-fasnach
  • grwpiau eiriol ar ran defnyddwyr
  • cwmnïau cyfreithiol
  • awdurdodau gorfodi

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol: Consultation on the implementation of the new subscription contracts regime - GOV.UK.

Mae'r ymgynghoriad ar agor ar gyfer ymatebion tan 10 Chwefror 2025. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.