BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad Sgiliau Sector Sero Net

Young maintenance engineer man working in wind turbine on the mountain,power generation saving and using renewable energy concept.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn am y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi’r broses o bontio i sero net ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru.

Maent yn ymgynghori ar y canlynol:

  • canfyddiadau Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net a'r 8 sector allyriadau (fel y nodwyd yn Sero Net Cymru)
  • sefyllfa bresennol sectorau yng Nghymru, gan gynnwys unrhyw grwpiau sgiliau sydd eisoes yn bodoli neu adroddiadau ymchwil / tystiolaeth i helpu i lywio camau gweithredu
  • anghenion sgiliau'r dyfodol a thystiolaeth o'r galw sy'n gysylltiedig â cherrig milltir allweddol (gan gynnwys llwybrau newid hinsawdd, buddsoddiadau allweddol neu gyfleoedd buddsoddi, newidiadau mewn arferion diwydiant sy'n cyd-fynd â lleihau carbon, technolegau newydd, datblygiadau allweddol, polisïau, gweithgareddau pontio ac ati
  • themâu trawsbynciol, sy’n cynnwys digidol, caffael, y Gymraeg ac arloesi, er mwyn nodi’r hyn sy’n gyson a’r anghenion sgiliau  
  • yr heriau a’r rhwystrau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu i uwchsgilio a chreu gweithlu medrus

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu mapiau ffyrdd ar gyfer sgiliau pob sector.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Rhagfyr 2023: Sgiliau sector sero net | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.