BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch â Gorymdaith Pride Cymru 2024

Pride Cymru, Caerdydd

Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw Pride Cymru ac mae’n gweithio i ddiddymu gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd, anabledd neu amhariad. Mae’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDTC+ yn y gymdeithas ac yn parhau i weithio i greu cyfleoedd i bobl LHDTC+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd.

Mae Gorymdaith Pride Cymru yn dychwelyd i strydoedd Caerdydd ar 22 a 23 Mehefin 2024. Dyma ddathliad blynyddol cyfareddol o gyflawniadau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogaeth y gymuned. Mae’n hynod o drawiadol yn weledol.

Gall busnesau, waeth beth fo’u maint, a’u gweithwyr gymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru: Join the Parade - Pride Cymru

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan: Home - Pride Cymru

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Gyda’n Gilydd mewn Balchder – sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar  yn Ewrop i bobl LHDTC+.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.