BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn cyflwyno Arddangosfa Microfusnesau a'r Trydydd Sector 2024 yn Procurex Cymru

schoolgirl holding a plate of food in canteen

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, yn falch o gyhoeddi Arddangosfa Microfusnesau a'r Trydydd Sector 2024 yn Procurex Cymru, a gynhelir ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024, yn ICC Cymru, Casnewydd.

Mae'r maes nodwedd newydd hwn yn ymroddedig i ddathlu rhagoriaeth ac arloesedd cyflenwyr ymhlith microfusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau dielw yng Nghymru. Mae'r ffocws eleni ar y sector bwyd a diod, gan gynnwys cyflenwyr sy'n darparu gwasanaethau i ysgolion, ysbytai a lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Mae Arddangosfa Microfusnesau a'r Trydydd Sector 2024 yn cynnig stondinau arddangos a ariennir yn llawn, i dynnu sylw at y cyfraniadau hanfodol y mae'r cyflenwyr llai hyn yn eu gwneud i gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Nod y digwyddiad yw cydnabod eu rôl, ysbrydoli twf pellach ac annog mwy o gydweithio â gweithwyr proffesiynol caffael cyhoeddus.

Rydym yn gwahodd sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf i gyflwyno 'Datganiad o Ddiddordeb' erbyn 19 Medi 2024. Bydd panel annibynnol yn adolygu'r holl geisiadau a bydd cyflenwyr dethol yn cael eu hysbysu erbyn dechrau mis Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn derbyn cymorth i wneud y mwyaf o'u presenoldeb yn Procurex Cymru.

Rydym hefyd yn gwahodd sefydliadau i hyrwyddo'r cyfle hwn o fewn eu rhwydweithiau eu hunain ac annog cyflenwyr cymwys i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Llenwch y ffurflen Datganiad o Diddordeb heddiw i gymryd rhan yn y digwyddiad cyffrous hwn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan neu cysylltwch yn uniongyrchol drwy e-bost showcase@procurexwales.co.uk neu dros y ffôn ar 0141 739 5383. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.