BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol: polisi gorfodi

Work colleagues looking at a digital device

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gynyddu’r cymorth i bobl sy’n ennill incwm is a gwella’r gwobrwyon i weithio. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel yr ‘isafswm cyflog’) yn rhoi amddiffyniad i weithwyr ar incwm isel a chymhellion i weithio. Mae’r isafswm cyflog yn helpu busnesau trwy sbarduno tegwch yn y farchnad lafur, gan sicrhau bod cystadleuaeth wedi’i seilio ar ansawdd y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir ac nid ar brisiau isel a sbardunir gan gyfraddau cyflog isel.

Dylai unrhyw un sydd â hawl i gael y lleiafswm cyflog ei dderbyn. Felly, mae gorfodi’r isafswm cyflog yn hanfodol, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i syrthio’n drwm ar gyflogwyr sy’n torri’r gyfraith yn y maes hwn ym mhob sector o’r economi.

Mae arweiniad ar gyfrifo’r isafswm cyflog, er mwyn helpu cyflogwyr i fodloni deddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar gael yma: Calculating the minimum wage - Guidance - GOV.UK

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: National Minimum Wage: policy on enforcement, prosecutions and naming employers who break National Minimum Wage law - GOV.UK 

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Living Wage Wales – For the real cost of living (cyflogbyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.