BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Uwchgynhadledd Arweinwyr Arloesi 2021

Yr Uwchgynhadledd Arweinwyr Arloesi (ILS) yw'r digwyddiad agored mwyaf sy’n paru arloesedd yn Asia.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys Paru Trefniadau Cydweithredu Busnes Newydd Byd-eang Her Tokyo 100 (T-100).

Mae'r gystadleuaeth T-100 yn gwahodd busnesau newydd o bob cwr o'r byd ac yn dewis ymgeiswyr ar gyfer cyfleoedd cydweithredu sy'n cyd-fynd â themâu busnes newydd a gyflwynwyd gan y 100 prif gorfforaeth sy'n cymryd rhan yn T-100.

Gall busnesau newydd o dramor gymryd rhan yn Power Matching a T-100 ar-lein, gan roi cyfle iddynt gyflwyno eu cynigion yn uniongyrchol i'r swyddogion gweithredol a’r bobl allweddol eraill yn y prif gorfforaethau sy'n cymryd rhan, gan greu cyfleoedd busnes newydd gyda'r cwmnïau hyn heb orfod teithio i Japan.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 3 a 5 Mawrth 2021 yn Toranom Hills, Tokyo, Japan ac ar-lein rhwng 8 a 12 Mawrth 2021.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ehangu eich cwmni ac ehangu’ch busnes yn Asia, cysylltwch â Goro.Okada@gov.wales erbyn 9pm 25 Medi 2020.

Am ragor o wybodaeth am yr Uwchgynhadledd Arweinwyr Arloesi ewch i wefan ILS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.