BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ysgoloriaeth Ryngwladol HCC yn barod am geisiadau

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei ysgoloriaeth deithio o 3 Ebrill 2023, pan fydd y chwilio'n dechrau am enillydd yr Ysgoloriaeth eleni.

Mae  Ysgoloriaeth HCC ar agor i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru.  Mae'n werth £4,000 ac mae'n gwobrwyo unigolion brwdfrydig i'w galluogi i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y byd.

Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae academyddion, ffermwyr, cigyddion, proseswyr a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, ac mae'r pynciau a astudiwyd yn amrywio o'r defnydd o borfa a bridio detholus i wella costau cynhyrchu a systemau graddio rhyngwladol ar gyfer cig eidion. 

Gall ysgolorion ddewis astudio unrhyw bwnc o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch, sydd o fudd iddynt hwy eu hunain ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Gall teithiau astudio barhau am hyd at chwe wythnos a disgwylir i ysgolorion ysgrifennu adroddiad  a rhannu eu canfyddiadau â'r diwydiant ar ôl iddynt ddychwelyd.

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth, dylai unigolion sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen gais ar wefan HCC, a bydd cyfweliad yn dilyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. 

Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 5pm ddydd Gwener 28 Ebrill 2023.  

Mae'r manylion llawn a chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud cais ar gael yma: Ysgoloriaeth HCC | HCC / Meat Promotion Wales


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.