BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau'r gefnogaeth fydd ar gael i ffermwyr yn 2025

Huw Irranca-Davies Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mercher, 17 Gorffennaf) y cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr a pherchenogion tir cyn cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn 2026.

Ym mis Mai, cyhoeddwyd amserlen newydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar ffermwyr a chymunedau gwledig.

Bydd y cynllun nawr yn dechrau yn 2026, gan roi mwy o amser I siarad a thrafod gyda prif bartneriaid.

Gan siarad ar drothwy'r Sioe Fawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd 'cyfnod paratoi' 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i roi cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r SFS.

Ymhlith y Cynlluniau hynny y mae:

  • Cynllun Cynefin Cymru - yn cael ei gynnig yn 2025 a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.
  • Cytundebau Tir Comin presennol Cynllun Cynefin Cymru - yn gallu cael eu hestyn ar gyfer 2025.
  • Y Taliad Cymorth Organig - yn cael ei gadw ar gyfer 2025.
  • Cyswllt Ffermio - yn cael ei estyn hyd at 2026, gan gadw'r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesiffermydd.
  • Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd - yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gael hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur ar draws tirwedd, dalgylch neu ar raddfa gyfan Cymru.  Bydd yn parhau'n bont i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud cyn cyflwyno Gweithredoedd Cydweithredol yr SFS.

Yn ogystal â'r pum cynllun hyn, bydd ymarfer cadarnhau data yn cael ei lansio.  Gydag adborth gan y ffermwyr sy'n penderfynu cymryd rhan bydd yr ymarfer yn rhoi darlun cywirach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed a welir ar ffermydd. Bydd hyn yn help i baratoi ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru (CCC) 2025 a chyflwyno'r SFS.

Os ydy ffermwyr am wneud cais am CCC 2025, maent yn cael eu hannog i gwblhau'r ymarfer cadarnhau data. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau'r gefnogaeth fydd ar gael i ffermwyr yn 2025 | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.