BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Mick Extance Off Road Motorcycle Experience

The Mick Extance Off Road Motorcycle Experience

 

Gyda rhestr helaeth o lwyddiannau beicio modur rhwng Mick ac Adam Extance, mae’r ddeuawd tad a mab yn cynnig y profiad beic modur oddi ar y ffordd o'r safon uchaf ar y tir gorau yng nghanolbarth Cymru.

Wrth i'r busnes ddatblygu, roedd Mick ac Adam eisiau rhagor o gefnogaeth ac arweiniad gennym yn Busnes Cymru i ddechrau cynllunio ar gyfer y profiad Harley Davidson oddi ar y ffordd cyntaf yn y byd. Ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus i Harley Davidson a chael cefnogaeth gan eu cynghorwr busnes, gwnaethant lansio’r ganolfan profiad yn Llangynog, gan ddenu llawer iawn o sylw yn y wasg.

Gyda'r nod o wella’r busnes hyd yn oed ymhellach, mae Mick ac Adam yn gweithio gyda’u hymgynghorydd cynaliadwyedd, yn edrych ar agweddau amgylcheddol, ymwneud â’r gymuned leol a gwella iechyd meddwl drwy’r profiadau y gallant eu cynnig.

Rydym yn falch o glywed mai dyma'r cyfnod prysuraf iddynt erioed ei gael!

A ydych yn awyddus i ehangu eich busnes? Cysylltwch am gefnogaeth ac arweiniad.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.