BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – pumed grant

Hawliwch y pumed grant os ydych yn credu y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar elw eich busnes rhwng 1 Mai a 30 Medi 2021.

Os ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflenni Treth, bydd CThEM yn cysylltu â chi o ganol mis Gorffennaf ymlaen i roi dyddiad i chi pan fydd y gwasanaeth hawlio ar gael. Bydd yn cael ei roi i chi naill ai drwy e-bost, llythyr neu drwy’r gwasanaeth ar-lein.

Bydd y gwasanaeth ar-lein i hawlio’r pumed grant ar gael o ddiwedd mis Gorffennaf 2021.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch hawliad ar neu cyn 30 Medi 2021.

Cyn i chi hawlio, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwystra.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.