BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2025 - Consesiynau Arlwyo, Stondinau ac Unedau

Chicken shawarma kebab

Manylion consesiynau arlwyo, stondinau ac unedau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Mae'r cyfleoedd canlynol ar gael drwy dendr ar gyfer Eisteddfod 2025:

  • Pentref Bwyd (unedau arlwyo symudol)
  • Cynigion manwerthu eraill ar hyd y Maes
  • Platiad a chynigion arlwyo eraill ar ffurf bwyty
  • Hufen ia
  • Arlwyo a siop y maes carafanau
  • Maes B
  • Ffreutur criw'r Maes

Dyddiad cau: 12 hanner dydd 17 Chwefror 2025.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Consesiynau arlwyo Eisteddfod 2025 | Eisteddfod

Mae stondinau ac unedau 2025 yn mynd ar werth ar 3 Mawrth 2025.

Beth sydd ar gael eleni?

  • Stondinau 3m x 6m: Uned arferol ar y Maes. Byddwn yn gosod rhesi o stondinau yn ôl yr arfer mewn ardal ganolog o'r Maes;
  • Cytiau Pren 3m x 2.5mCytiau unigol yn unig. Bydd y rhain wedi'u gosod o amgylch y Maes yn ôl yr arfer;
  • Stondinau 3m x 3m: Stondinau llai - perffaith ar gyfer busnes neu gwmni bach sy'n dod i'r Eisteddfod am y tro cyntaf.  Bydd y rhain wedi'u gosod mewn rhesi mewn ardal ganolog o'r Maes;
  • Strwythurau: Os hoffech chi drafod presenoldeb amgen ar y Maes eleni, cysylltwch â ni, stondinau@eisteddfod.cymru
  • Pentref Celf: Cytiau pren a stondinau 6m x 3m i'w gosod yn ardal Y Lle Celf.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Stondinau ac unedau 2025 | Eisteddfod 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.