BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Go Global 11.11 Pitch Fest

Mae fersiwn y DU ac Iwerddon o ‘Go Global 11.11 Pitch Fest’ yn gyfle i fusnesau bach a chanolig o Brydain ac Iwerddon gael eu troed i mewn i farchnad Tsieina, a thyfu’n rhyngwladol, gyda llwybr carlam i ddigwyddiad siopa mwyaf y byd, Gŵyl Siopa Fyd-eang 11.11 Alibaba. Fe wnaeth mwy na 800 miliwn o gwsmeriaid o Tsieina gymryd rhan yng Ngŵyl Siopa 11.11 y llynedd.

Gall brandiau cymwys gyflwyno eu cynhyrchion i banel arbenigwyr Alibaba i dderbyn cyngor gwerthfawr ar sut i ddatblygu eu busnes yn Tsieina. Bydd brandiau a ddewisir i gymryd rhan yn derbyn cyngor ymarferol gan Tmall Global, a bydd eu cynhyrchion yn cael eu rhoi ar y farchnad yn ystod Gŵyl Siopa Fyd-eang 11.11 fis Tachwedd.

Y dyddiad cau i wneud cais yw 16 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Alibaba.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.