BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes

Mae’r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS) yn cynnig gwasanaeth annibynnol a hygyrch, yn rhad ac am ddim, i ddatrys anghydfodau rhwng busnesau cymwys a banciau sy’n cymryd rhan.

Mae cynrychiolwyr busnes a’r sector bancio wedi cydweithio i lunio’r BBRS i fynd i’r afael â chwynion cyfredol gan fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ac fel bod dewis ganddynt yn lle herio banc yn y llys.

Mae gan y BBRS ddau gynllun: cynllun hanesyddol ar gyfer cwynion heb eu datrys sy’n mynd yn ôl mor bell ag 1 Rhagfyr 2001, a chynllun cyfoes ar gyfer cwynion sydd wedi codi er 1 Ebrill 2019. Mae gwahanol feini prawf cymhwysedd penodol ar gyfer y naill gynllun a’r llall wedi’u hamlinellu ar y wefan - www.thebbrs.org/eligibility

I ddysgu rhagor am y gwasanaeth hwn, i wirio cymhwysedd neu i gofrestru achos, dylai busnesau ymweld â  wefan www.thebbrs.org neu gysylltu â’r tîm dros y ffôn: 0345 646 8825 neu e-bost hello@thebbrs.org 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.