BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Free From Christmas 2021

Gellir enwebu nawr ar gyfer y gwobrau Free From Christmas (FFFAs) cyntaf. Maent yn esblygiad hirddisgwyliedig o’r Ffas, sydd â’r nod o gydnabod a dathlu cynhyrchion tymhorol.

I lawer, y Nadolig yw un o ddathliadau mwyaf y flwyddyn gyda dewisiadau tymhorol yn dod yn fwyfwy pwysig i’r defnyddiwr alergaidd. O ystyried graddfa’r arloesi dros y blynyddoedd diwethaf, a’r dyhead gan gynhyrchwyr, cyflenwyr a manwerthwyr, rydym yn teimlo mai nawr yw’r amser i gydnabod a dathlu Free From Christmas drwy wobrau arbennig
Bydd y gwobrau’n cynnig cyfres o gategorïau unigol sy’n berthnasol i gynhyrchion tymhorol yn unig, sydd ar gael ar gyfer Nadolig 2021.

  • Rhoi yn anrheg
  • Bwyd Parti
  • Diodydd - gydag a heb alcohol
  • Cinio Nadolig
  • Amser Te – Peis a Chacennau
  • Ar ôl Cinio – Pwdinau a Chyffeithiau
  • Cynnyrch Bwyd Nadolig y Flwyddyn
  • Cynnyrch Diod Nadolig y Flwyddyn
  • Brand Nadolig Annibynnol Gorau'r Flwyddyn
  • Detholiad Nadolig y Flwyddyn

Bydd enwebu ar gyfer gwobrau Free From Christmas 2021 yn cau am hanner nos ddydd Sul 18 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Free From Food Awards.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.