BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyrwyddo Arloesedd a Thwf Sero Net yn Ne-orllewin Cymru

Designer, engineer looking at a scaled model of green space, wind turbines

Dewch o hyd i gyfleoedd ariannu a chefnogaeth ranbarthol i fusnesau sy'n datblygu mentrau datgarboneiddio yn ne-orllewin Cymru yn nigwyddiad Pwynt Lansio Innovate UK De Orllewin Cymru ar 11 Hydref 2024 yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro SA72 6UN.

Cefnogir Grŵp Pwynt Lansio Innovate UK De Orllewin Cymru gan Sero Net Diwydiant Cymru (SNDC).

Mae'r Pwynt Lansio’n darparu cyllid a chefnogaeth ar gyfer gweithgareddau sy'n cyfrannu at drawsnewid y rhanbarth i Sero Net. Nod Pwynt Lansio yw ysgogi arloesedd a thwf economaidd yn y sectorau Sero Net, technoleg adnewyddadwy ac economi gylchol yn ne-orllewin Cymru.

Mae SNDC, ORE Catapult, Afallen a Phartneriaid Pwynt Lansio eraill yn cyflwyno'r galluoedd arloesi, y cyfleoedd a'r gefnogaeth ariannol ar gyfer diwydiant yn ne-orllewin Cymru.

Mae Pwynt Lansio De-orllewin Cymru yn annog diddordeb gan fusnesau bach a chanolig yn arbennig.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocyn dewiswch y ddolen ganlynol:  South West Wales innovate UK Launchpad - Driving Net Zero Innovation and Growth at Bridge Innovation Centre event tickets from TicketSource

Y Weledigaeth Werdd

Mae Busnes Cymru yn helpu busnesau Cymru i gyflawni eu Gweledigaeth Werdd.

Gyda phecynnau adnoddau pwnc i’w lawrlwytho ac astudiaethau achos ar gael, dysgwch sut allwch chi gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes. Yma yn Busnes Cymru, gallwn eich helpu i gymryd camau i greu arbedion a lleihau eich effaith ar newid yn yr hinsawdd. 

Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un. Felly, os cewch eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â'r tîm i drefnu'ch sesiwn sydd wedi'i hariannu'n llawn. Yn y sesiynau hyn, bydd ymgynghorwyr arbenigol yn eich helpu i lunio'ch Gweledigaeth Werdd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.