BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Weledigaeth Werdd

Mae Busnes Cymru yn helpu busnesau Cymru i gyflawni eu Gweledigaeth Werdd.

Gyda phecynnau adnoddau pwnc i’w lawrlwytho ac astudiaethau achos ar gael, dysgwch sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes. Yma yn Busnes Cymru, gallwn eich helpu i gymryd camau i greu effeithlonrwydd a lleihau eich effaith ar newid yn yr hinsawdd. 

Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un. Felly, os cewch eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â'r tîm i drefnu'ch sesiwn sydd wedi'i hariannu'n llawn. Yn y sesiynau hyn, bydd ymgynghorwyr arbenigol yn eich helpu i lunio'ch Gweledigaeth Werdd.

Sesiynau gan Arbenigwyr Busnes Cymru: Y Weledigaeth Werdd

Dyma gyflwyno Cyfarfodydd Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru; wyth sesiwn sy'n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Gellir lanlwytho pecynnau adnoddau pwnc ar gyfer bob sesiwn, fel eich bod chi'n gallu deall sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes. 

Os oes gennych chi Weledigaeth Werdd sy'n anelu at fod yn garbon Sero Net yn y dyfodol, dyma'r gyfres i chi. 


Dwr

Dyma rai awgrymiadau i fusnesau leihau eu defnydd o ddwr a gwella eu heffeithlonrwydd

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Ynni

Gall mesurau arbed ynni ddechrau trwy ddilyn rhai camau syml.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Cadwyn Gyflenwi

Mae gwneud yn siwr bod gennych gyflenwad cynaliadwy o'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes yn hanfodol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Cyfrifo Carbon

Mae cyfrifyddu garbon yn ffordd o fesur faint o nwyon ty gwydr y mae busnes yn eu cynhyrchu mewn unedau o garbon deuocsid.

Trwy gyfrifyddu carbon, gall eich busnes ddeall a lleihau ei ol troed carbon.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Gwastraff

Dydy rheoli gwastraff ddym yn rhywbeth rydych chi'n meddwl amdano yn aml oni bai ei fod yn achosi problemau gweithredol o ddyd i ddydd.

Fodd bynnag, efallai eich bod yn colli cyfle i arbed arian a llelhau eich effaith amgylcheddol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Gwyddom fod gwella cynaliadwyedd a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd yn dda ar gyfer busnes, ein cymunedau, a'n hamgylchedd, ond peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan fusnesau llwyddiannus i'w ddweud, a dysgwch fwy am y camau maen nhw wedi'u cymryd i ddod yn fwy cynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.