BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglenni Twf Glân wedi'u hariannu'n llawn ar agor i fusnesau ledled De Cymru

team discussing clean growth for their business, looking at graphs and diagrams

Gwahoddir busnesau a sefydliadau trydydd sector yn Ne Cymru i ymuno â sesiynau rhaglen deuddydd CEIC sy’n archwilio datblygu busnes cynaliadwy, egwyddorion economi gylchol a chyfleoedd ar gyfer arloesi a thwf.

Bydd y sesiynau a ariennir yn llawn yn helpu busnesau lleol i fynd i’r afael â hanfodion twf glân, allyriadau carbon a strategaethau cylchol, yn cynnig cyfle i rwydweithio â busnesau eraill, ac yn darparu cymorth i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon sy’n troi cynaliadwyedd yn fantais fusnes.

Busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd:

  • 21 Ionawr 2025, 9:30am i 4pm a’r 4 Chwefror 2025, 9:30am i 12:30pm - 
    Porth Tredomen Ystrad Mynach, Hengoed, Caerffili CF82 7SN
  • 22 Ionawr 2025, 9:30am i 4pm a’r 5 Chwefror 2025, 9:30am i 12:30pm -  Cwrt Insole, Heol y Tyllgoed, Caerdydd
  • 28 Ionawr 2025, 9:30am i 4pm a’r 12 Chwefror 2025,  9:30am i 12:30pm - Y Cwt Fferm Longacre, Pendeulwyn Y Bont-faen CF71 7UG

Busnesau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot:

  • 27 Chwefror 2025, 9:30am i 4pm (yn bersonol), ac 11 Mawrth 2025, 11am i 2pm (ar-lein) - Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, Ffordd Fabian, Abertawe

Darperir cinio a lluniaeth. Disgwylir i gyfranogwyr fynychu'r ddau ddiwrnod. 

Archebwch eich lle wedi’i ariannu’n llawn isod: Digwyddiadau CEIC | DU

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad allweddol CEIC ym mis Chwefror, pan fydd carfannau presennol ein rhaglen yn dod at ei gilydd i arddangos y profiad, y syniadau a’r canlyniadau o’u cyfranogiad CEIC hyd yn hyn. 

Mae'r gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i fusnesau ddysgu mwy am yr economi gylchol yn Ne Cymru, creu cysylltiadau newydd ac archwilio ffyrdd cynaliadwy o weithio:

  • Arloesi yn yr Economi Gylchol: Dysgu gan Sefydliadau Cymru 2025
  • Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025, 9:30am i 1pm
  • Stadiwm Principality (Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1NS)

Cofrestrwch yma: CEIC Wales event tickets from TicketSource.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.