Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen wedi lansio Liber, prosiect pedwar mis i fynd i'r afael â'r heriau o ganlyniad i argyfwng Covid-19 mewn carfan o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig.
Mae hanes wedi dangos fe ddaw’r datblygiadau arloesol mwyaf pwerus yn ystod cyfnodau o galedi. Mae'n siŵr y bydd hyn yn un o'r adegau hynny. Fodd bynnag, nod prosiect Liber yw lansio llwyddiant entrepreneuraidd y DU, drwy ddod a chriw at ei gilydd a defnyddio gwybodaeth gyfunol,
Mae ceisiadau ar agor i fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig o bob diwydiant, wedi'u hymgorffori yn y DU, a hyd at 250 o weithwyr. Nid oes unrhyw gost i gymryd rhan. I wneud cais, ewch i wefan Ysgol Fusnes Saïd Prifysgol Rhydychen.
Os ydych yn arweinydd busnes profiadol ac os hoffech gefnogi prosiect Liber drwy wirfoddoli eich amser a'ch arbenigedd, neu os hoffech drafod partneriaeth sefydliadol, cysylltwch â liber.project@sbs.ox.ac.uk
Ewch i’n tudalen Covid-19 Cymorth i Fusnesau ar ein gwefan i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.