BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd, Document

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol - pecynnau adnoddau

Pecynnau adnoddau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 17 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 1.46 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Sut mae creu amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Image removed.

I weithwyr, mae’r amgylchedd maen nhw’n gweithredu ynddo, y perthnasoedd maen nhw’n eu datblygu a’r diwylliant maen nhw’n ei fwynhau pan fyddan nhw yn y gwaith i gyd yn cael effaith sylweddol ar eu llesiant a’u bodlonrwydd yn eu swydd. Dylai eu man gwaith fod yn ddiogel ac iach yn ogystal â bod yn gynhwysol i bawb fel bod pawb, waeth beth fo’u rhywedd, eu hil, eu anabledd, eu hoedran, eu rhywioldeb neu eu crefydd, yn teimlo ymdeimlad o berthyn ac yn cael eu grymuso i gyflawni eu llawn botensial, yn rhydd rhag aflonyddu, gwahaniaethu a bwlio.

Fodd bynnag, er bod y manteision i’r gweithwyr unigol yn glir, fel cyflogwr, pam ddylech chi fod yn ystyried creu amgylchedd iawn i’ch staff?

Dyma rai o’r ffyrdd y gall hynny fod o fudd i berfformiad eich busnes:

  • Gall amodau gwaith sy’n ymwybodol o iechyd a lles corfforol a meddyliol gweithwyr roi hwb i forâl ac arwain at gyfraddau is o drosiant staff ac absenoldeb oherwydd salwch.
  • Mae gweithwyr sy’n ffit, yn iach ac sy’n gallu gweithio yn debygol o ymgysylltu fwy a bod yn fwy cynhyrchiol.
  • Gall gwreiddio egwyddorion gwaith teg helpu busnes i elwa ar weithlu mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol a’r gronfa sgiliau a thalent gynyddol y mae hyn yn ei darparu.
  • Gall creu amgylchedd gwaith cynhwysol eich helpu i recriwtio pobl sydd ag amrywiaeth ehangach o gefndiroedd a sgiliau, a all yn ei dro eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â heriau a denu amrywiaeth eang o gwsmeriaid.
  • Ar wahân i’r holl fanteision clir, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach. Eich dyletswydd chi fel cyflogwr yw gwarchod iechyd, diogelwch a lles eich gweithwyr a phobl eraill y gallai eu gweithgareddau gwaith effeithio arnynt, ac mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â straen sy’n gysylltiedig â gwaith er mwyn atal salwch.
  • Mae gennych hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eich gweithle yn rhydd o wahaniaethu, aflonyddu a bygythiadau, i hyrwyddo cyfle cyfartal, yn ogystal â meithrin cysylltiadau da rhwng unrhyw unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.

Beth allaf ei wneud gel cyflogwr i sicrhau bod gan fy staff amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol?

Felly, rydych chi’n deall sut gall yr egwyddor Gwaith Teg benodol hon fod o fudd i’ch busnes chi yn ogystal â’ch gweithwyr, ond pa gamau allwch chi eu cymryd i wireddu hyn yn eich sefydliad?

Dyma rai camau ymarferol i’w hystyried:

Blaenoriaethu iechyd a diogelwch eich staff

Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i ddiogelu eu gweithwyr rhag niwed, felly dylai sicrhau iechyd a diogelwch yn y gweithle fod yn flaenoriaeth. Rhaid i chi ddarparu man gwaith diogel, system waith ddiogel a pheiriannau ac offer digonol, recriwtio staff cymwys sy’n ymwybodol o ddiogelwch a darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol i sicrhau bod staff yn gallu cyflawni eu rolau’n ddiogel.

Ceisiwch hefyd ystyried goblygiadau ehangach gwaith eich staff ar eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Er enghraifft, os ydych chi’n cynnig patrymau shifft neu’n disgwyl i weithwyr deithio i’r gwaith, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael digon o amser i gysgu ac adfer, er mwyn osgoi goblygiadau difrifol cwsg gwael ar gynhyrchiant busnes ac absenoldeb staff. A mesurwch lwyth gwaith gormodol yn yr un ffordd ag y byddech yn mesur absenoldeb staff.

Ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng rheoli iechyd a diogelwch corfforol ac iechyd a diogelwch meddyliol

Mae gan waith rôl bwysig o ran hybu lles, darparu ymdeimlad o foddhad a rhyngweithio cymdeithasol. Fodd bynnag, pan nad yw’n cael ei reoli’n effeithiol, gall hefyd gael effeithiau negyddol ar iechyd meddwl, yn enwedig ar ffurf straen.

Mae’r ffactorau a all effeithio ar iechyd meddwl yn cynnwys:

  • Ffactorau ffisegol megis peryglon deunyddiau, sŵn, golau gwael, llwch a baw
  • Ymdeimlad o annhegwch ac anghyfiawnder sy’n deillio o’r broses reoli neu berthnasoedd personol
  • Anghydbwysedd canfyddedig rhwng yr ymdrech sydd ei hangen a buddion y swydd

I osgoi hyn, ewch ati i greu cynllun ar gyfer monitro iechyd meddwl eich staff, gydag atebolrwydd ac adborth clir ar bob lefel o’r sefydliad, yn yr un modd ag y byddech chi’n ei wneud ar gyfer risgiau iechyd corfforol. Cyfathrebwch fod lles yn flaenoriaeth ym mhob gohebiaeth, cael prosesau effeithiol ar waith i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle, hyfforddi rheolwyr a gweithwyr i adnabod a rheoli risgiau a pheryglon seicolegol, a gweithio tuag at adrodd yn gyhoeddus ar eich cofnodion iechyd meddwl.

Creu amodau gwaith er mwyn sicrhau’r iechyd gorau posibl i weithwyr

Mae pob math o newidiadau y gallwch eu gwneud i’r amgylchedd gwaith er mwyn annog eich gweithwyr i fod yn fwy egnïol, bwyta’n iachach a gwella eu lles cyffredinol yn y gwaith a’r tu allan iddo. Hefyd, mae cefnogi pobl sydd ddim yn iach a helpu gweithwyr sydd wedi bod yn sâl i fynd yn ôl i weithio yn nodwedd bwysig o greu amgylchedd gwaith iach.

Cyflwyno strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) effeithiol

Dylai eich strategaeth EDI fynd y tu hwnt i gydymffurfiad cyfreithiol a cheisio ychwanegu gwerth at eich sefydliad drwy gyfrannu at lesiant a chanlyniadau cyfartal i bob gweithiwr. Dylid ei ddatblygu drwy ddefnyddio profiadau uniongyrchol staff sydd ar y cyrion a dylai roi sylw i ystod eang o nodweddion a phrofiadau personol gan gynnwys acen, oed, cyfrifoldebau gofalu, lliw, diwylliant, namau gweladwy ac anweladwy, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, iechyd meddwl, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, barn wleidyddol, beichiogrwydd a mamolaeth/tadolaeth a statws teuluol ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

I nodi rhwystrau ac atebion, gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu data i olrhain amrywiaeth eich gweithlu, ac ymrwymo i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig ar bob lefel yn y sefydliad. Ymrwymwch hefyd i leihau unrhyw fylchau cyflog o ran rhyw, hil ac anabledd a allai fodoli yn eich busnes.

Sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu trin yn deg a meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol

Cofiwch fod rheoli amrywiaeth a datblygu diwylliant o gynhwysiant yn broses barhaus o wella, nid menter untro. Gwnewch yn siŵr bod eich polisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gyfredol o ran cynnwys y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf ac ewch ati i’w hadolygu’n rheolaidd drwy archwiliadau ac ymgynghoriadau. Cynlluniwch ganllawiau a darparu hyfforddiant i reolwyr llinell i’w helpu i ymateb yn briodol i anghenion amrywiaeth, a lle bo hynny’n bosibl, Cysylltwch y gwaith o reoli amrywiaeth â mentrau eraill fel Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP), BSI 76000 Gwerthfawrogi Pobl ac ISO 9001 Rheoli Ansawdd.

Cael gwared ar rwystrau sy’n wynebu gweithwyr anabl

Ewch ati i feithrin hyder ar draws eich tîm ynghylch rheoli a chefnogi cydweithwyr anabl, o recriwtio a chynefino i hyfforddiant, datblygiad a dilyniant. Ceisiwch nodi newidiadau neu addasiadau priodol yn y gweithle i waredu rhwystrau ar gyfer aelodau’r tîm sydd â namau, i’w galluogi i gyrraedd eu llawn botensial a ffynnu yn y gwaith.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at gymorth ar gyfer gweithwyr anabl i’w chael ar wefan Busnes Cymru neu gallwch siarad â Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl drwy anfon e-bost i DPEC@gov.wales

Ac yn olaf...

Mae pob math o ffyrdd eraill o wneud eich gweithle yn fwy cynhwysol – mae gormod i’w rhestru yma. Er enghraifft, gallwch ddatblygu Canllaw Hygyrchedd a chreu dogfennau digidol hygyrch i gyrraedd ystod ehangach o gwsmeriaid. Yn ogystal â chyflwyno polisïau gweithio hyblyg sy’n addas i deuluoedd i helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, helpwch famau newydd i ddychwelyd i’r gwaith drwy ymgysylltu â’r Ymgyrch Croesawu Bwydo ar y Fron. Ac i gefnogi staff Cymraeg iaith gyntaf a denu siaradwyr Cymraeg newydd, dylech wneud popeth o fewn eich gallu i gydnabod a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae enghreifftiau’n cynnwys defnyddio Helo Blod ar gyfer cyfieithu am ddim ac archwilio’r cyfoeth o adnoddau Cymraeg sydd ar gael i gyflogwyr ar-lein.

Pecyn cymorth - Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Nawr bod gennych chi rai syniadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud i greu amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol, beth sy’n eich rhwystro chi?

Mae cyfoeth o offer ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad ond rydym yn gwybod y gall deall sut mae llywio drwy’r holl wybodaeth fod yn her, felly rydyn ni wedi casglu rhai o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:

Pecyn Cymorth i Annog Siarad | GOV.UK

Mae’r gyfraith yn mynnu bod pob cyflogwr yn asesu’r risg o straen sy’n gysylltiedig â gwaith ac yn rhoi camau ar waith i fynd i’r afael â’r risgiau hynny.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys templedi ar gyfer chwe sgwrs wahanol sydd wedi’u cynllunio i gael rheolwyr llinell a gweithwyr i siarad am faterion a allai fod yn achosi straen neu broblemau sy’n gysylltiedig â gwaith a allai fod â’r potensial i ddod yn achosion yn y dyfodol os nad ydynt yn cael eu rheoli’n iawn.

Cyflogaeth Pobl Anabl- Busnes Cymru

Mae digonedd o gymorth a gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chyflogi pobl anabl i’w cael ar wefan Busnes Cymru.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y Gweithle | Taflenni Ffeithiau | CIPD

Mae’r daflen ffeithiau hon yn edrych ar beth mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithle yn ei olygu, a sut mae strategaeth effeithiol yn hanfodol i amcanion busnes sefydliad. Mae’n edrych ar y rhesymeg dros weithredu ac yn amlinellu camau y gall cyflogwyr eu cymryd i weithredu a rheoli strategaeth EDI lwyddiannus, o recriwtio, dethol, cadw, cyfathrebu a hyfforddi i fynd i’r afael ag ymddygiad yn y gweithle a gwerthuso cynnydd.

Model Workwell - Business in the Community

Mae Model Workwell Business in the Community yn darparu fframwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwreiddio iechyd a lles yn niwylliant y sefydliad. Nod y model yw helpu busnesau i greu amgylcheddau lle gall unigolion a sefydliadau fod ar eu gorau drwy ddefnyddio dull gweithredu ataliol, person-cyfan, sefydliad-cyfan tuag at iechyd a lles.

Cyflogaeth gynhwysol: Ysbrydoli, Cyflogi a Thalentau Amrywio - Business in the Community

Er bod diweithdra yn y DU ar ei isaf ers blynyddoedd a bod cyfraddau cyflogaeth cuffredinol menywod a phobl ifanc yn codi, mae'r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur yn dal i gael eu gadael ol. Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn dal yn uchel, mae pobl ag anableddau yn ei chael yn anodd cael gwaith ac mae cyn-aelodau'r lluoedd arfog bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na sifiliaid.

Mae pobl ag euograrnau troseddol yn dal i ddioddef gwahaniaethu eang yn eu herbyn ac mae ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau o ran cymwysterau, iaith a dogfennau. Mae'r daflen ffeithiau hon yn rhoi cyngor ar sut i recriwtio ymgeiswyr o'r grwpiau hyn sydd fel arfer wedi'u heithrio.

Model Cymdeithasol o Anabledd | Llywodraeth Cymru

Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gwahaniaethu rhwng ‘amhariad’ ac ‘anabledd’. Mae’n cydnabod bod pobl sy’n byw gydag amhariadau yn wynebu rhwystrau sy’n eu gwneud yn anabl yn y gymdeithas neu yn y gweithle. Dysgwch fwy neu cofrestrwch ar gyfer yr hyfforddiant yma.

Hyderus o ran Anabledd a CIPD: Canllaw ar gyfer rheolwyr llinell wrth gyflogi pobl gydag anabledd neu gyflwr iechyd - GOV.UK

Mae’r canllaw hwn, sy’n rhan o’r ymgyrch Hyderus o ran Anabledd, yn rhoi cyngor ymarferol i reolwyr llinell ar recriwtio, rheoli a datblygu pobl anabl. Ei nod yw helpu cyflogwyr i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir drwy gyflogi a datblygu pobl anabl.

Pecyn Cymorth Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac mae’n rhaid i ni fod yn rhagweithiol pan mae’n digwydd. Mae’r pecyn cymorth yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle a’i rwystro rhag digwydd.

Templed polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant | ACAS

Mae’r templed polisi EDI hwn ar gael am ddim i’w lwytho i lawr oddi ar wefan ACAS a gellir ei addasu i gyd-fynd ag anghenion eich busnes. Mae’n amlinellu pwrpas cael polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant effeithiol ac yn rhestru ymrwymiadau unigol y sefydliad i sicrhau arferion gorau yn y maes hwn.

Lawrlwytho'r ddogfen: 1.46 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.