BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

DEL Gwasanaethau Glanhau Cleaning Services

Fe wnaeth y galwadau ffôn niferus gyda’r arbenigwyr fy helpu i gael pethau’n iawn y tro cyntaf.

Yn dilyn ennill cyfoeth o sgiliau dros y blynyddoedd yn gweithio fel rheolwr llety, penderfynodd Delyth Jones gychwyn menter newydd, ac agor ei busnes glanhau ei hun.

Doedd gan Delyth ddim llawer o hyder i ddechrau gan nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol o redeg busnes na bod yn hunangyflogedig, felly estynnodd am gymorth Busnes Cymru am gyngor arbenigol. Bu i hyn sicrhau y byddai ganddi’r adnoddau a’r wybodaeth i wneud i lwyddo.

Ar ôl mynychu ein gweminar Dechrau a Rhedeg Busnes, derbyniodd Delyth gefnogaeth un-i-un bellach gan ei chynghorydd, gan ganfod gwybodaeth am bolisïau ac ymchwil marchnad. Roed Delyth yn awyddus i gyflogi staff, ac felly rhoddodd ei chynghorydd cydraddoldeb ac amrywiaeth wybodaeth iddi am recriwtio staff, a chydymffurfio â chyfreithiau cyflogaeth.

Ar ôl derbyn cymorth gan ei chynghorwyr busnes, sefydlwyd busnes Delyth ac mae bellach yn masnachu fel DEL Gwasanaethau Glanhau Cleaning Services.

Oes angen cymorth cychwyn busnes arnoch chi? Cysylltwch heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.