BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

EKO ‘Thomas’ All Waste Recycled

EKO ‘Thomas’ All Waste Recycled

Rhoddodd Busnes Cymru strwythur i mi, sicrhaodd fy nghynghorydd fy mod yn atebol a’m harwain i’r cyfeiriad cywir.

Penderfynodd Tomasz Szymczak fanteisio ar y syniad o fod yn fos arno’i hun drwy redeg ei fusnes casglu gwastraff cartref ac ailgylchu ei hun.

Heb gynllun busnes na strwythur pendant, cysylltodd Tomasz â Busnes Cymru. Roedd am sicrhau y gallai redeg y busnes yn effeithlon ac yn gyfreithlon.

Eglurodd ei gynghorydd wrtho sut i wneud y busnes yn gyfreithlon gyda thrwydded cludwr gwastraff, gan gymryd asesiadau risg a chydymffurfio ag iechyd a diogelwch.

Ar ôl trafod costau cychwynnol a llif arian, ymgeisiodd a derbyniodd Tomasz grant Rhwystrau rhag Cychwyn ar gyfer pobl 25 oed a throsodd, gan ei alluogi i brynu offer hanfodol.

Cynghorwyd Tomasz hefyd ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o’i fusnes, EKO ‘Thomas’ All Waste Recycled, ac mae bellach wedi dechrau cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cleientiaid newydd.

Oes angen cyngor ar gydymffurfiaeth iechyd a diogelwch yn eich busnes arnoch chi? Gall Busnes Cymru eich helpu. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.