BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tyre Glider

Bu Busnes Cymru yn wych o’r alwad ffôn gyntaf un; cefais fy nghyfeirio at yr unigolyn a’r cymorth cywir a bu eu cyngor ac arweiniad yn fanteisiol i mi ddod â fy nghynnyrch i’r farchnad. Derbyniais bob math o gefnogaeth gan wahanol rannau o fewn Busnes Cymru a bu bob un aelod [o’r tîm] yn hynod gefnogol drwy eu cyngor ar faterion cyffredinol i bethau mwy penodol megis allforio.

Dyluniodd Kevin Baker declyn beicio ac roedd angen cymorth arno i ddod ag ef i’r farchnad a chreu ei fenter fusnes ei hun.

Mynychodd ein gweminar Dechrau a Rhedeg eich Busnes Eich Hun a chafodd gymorth 1 i 1 gan gynghorydd busnes cyffredinol, cynghorydd masnach ryngwladol ac arbenigwr sgiliau. Yna, cafodd ei baru â mentor a fyddai’n gweithredu fel seinfwrdd wrth i’w fusnes dyfu. 

Rhoddwyd cyngor ar rannu offer, adnoddau a datblygu ei hyfforddiant ymhellach, ac o ganlyniad i hyn, teimlai Kevin yn fwy hyderus i lansio ei fusnes TyreGlider yn llwyddiannus, teclyn teiar a afaelir â llaw sy’n newid teiar mewn eiliadau. 

Dysgwch fwy am y cymorth sydd gennym i’w gynnig ar eich cyfer.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.