BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Adeiladu momentwm

Caiff llwyddiant ei adeiladu ar freuddwydion - ond fydd hyn ddim yn digwydd trwy hud a lledrith. Mae cymaint o bobl yn methu cyrraedd eu llawn botensial, a'r prif reswm yw eu bod nhw'n dal i feddwl ac esgeuluso cofio. "Mae angen iddyn nhw wneud y gwneud!"  

Rhai meddyliau:  

  • Mae llwyddiant yn cynnwys 20% strategaeth - 80% gwneud.  
  • Gweithiwch ar y sail "bod bywyd yn annheg ac nid oes arno urnhywbeth i chi" - man cychwyn gwych.  
  • A yw enillwyr yn cael eu geni neu eu gwneud – CÂNT EU GWNEUD.  
  •  Mae ymchwil y New Scientist yn dangos bod llwyddiant o ganlyniad i:  
    • 1% ysbrydoliaeth  
    • 29% hyfforddiant da  
    • 70% gwaith caled  
  • Mae'r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant yn aml yn ymwneud â gweithredu yn unig. 
  • Os byddwch yn methu – methwch yn gyflym a symud ymlaen.  
  • Mae bywyd yn aml yn cyflwyno ffenestr o gyfle i ni - gall hynny fod yn yrfa newydd posibl, cyfle gwerthu, neu... Pan fydd hyn yn digwydd, dylech ymddiried yn eich greddf a mynd amdani!  
  • Dylech wthio eich parthau cysur yn gyson, bydd hyn yn eich llusgo i feysydd a phosibiliadau newydd.
  • Os yw beth rydych chi'n ei wneud yw rhoi'r un canlyniad annerbyniol i chi - yna gwnewch rywbeth gwahanol.  
  • Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud iddo ddigwydd - felly stopiwch rhoi’r bai ar bawb arall pan fydd pethau'n mynd o'i le. 

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.