BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog entrepreneuriaid uchelgeisiol o Gymru i wneud cais am raglen cyflymu dechrau busnes arloesol 

Aspiring Welsh entrepreneurs

Mae meddyliau entrepreneuraidd disgleiriaf Cymru yn cael eu hannog i achub ar y cyfle i gyflymu eu syniadau busnes. Bellach mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Cymru sy’n rhaglen ymdrochol 12 wythnos arloesol, ac sydd i’w lansio ym mis Medi 2024.   
 
Bydd Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Cymru yn cyfuno sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb i ddarparu profiad dechrau busnes cynhwysfawr a chyflym. Bydd cyfranogwyr yn cael arweiniad gam wrth gam ar droi eu syniad yn fusnes cwbl weithredol, gyda chymorth wedi'i deilwra i'w galluogi i gaffael cwsmeriaid sy'n talu a datblygu model busnes cynaliadwy. Bydd hyfforddwyr yn mireinio sgiliau busnes hanfodol cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen ac yn meithrin meddylfryd sy'n cael ei yrru gan lwyddiant, sy'n hanfodol i unrhyw ddarpar entrepreneur. 
 
Mae'r cyflymydd hwn yn agored i bob entrepreneur uchelgeisiol yng Nghymru sydd â syniad busnes cyn-refeniw. Dylai'r syniad busnes anelu at gyrraedd dros £1 miliwn mewn trosiant blynyddol a chreu deg swydd amser llawn erbyn 2028, gyda chyfleoedd allforio posibl. Mae cymorth hefyd ar gael i helpu i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn y rhaglen.  
  
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfuniad o weminarau, dosbarthiadau meistr a sesiynau mentora un i un a gynhelir gan fodelau rôl busnes ac arbenigwyr twf busnes. Rhwydweithio yw un o gonglfeini'r rhaglen, gyda sesiynau rhwng cymheiriaid yn hwyluso twf busnes ac yn rhoi cipolwg amhrisiadwy. Bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus a gynlluniwyd i godi proffiliau busnes a sbarduno twf cyflym, a'r rhaglen yn cloi gyda digwyddiad gwobrwyo proffil uchel.
 
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Cyflymu Dechrau Busnes 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 19 Awst 2024. 
 
Mae'r Cyflymydd Dechrau Busnes hwn yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Dysgwch sut y gall y rhaglen eich cynorthwyo chi i oresgyn eich heriau busnes a chyrraedd eich gwir botensial i dyfu drwy ymuno â’r digwyddiad 'Cyflwyniad i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru' ar Ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024.

I gofrestru eich diddordeb cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyflwyniad i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Os nad yw eich busnes yn barod ar gyfer y lefel hon o dwf, mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gyngor ac arweiniad am ddechrau busnes a thwf busnes. I ddysgu rhagor ac i siarad â chynghorydd arbenigol, ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i Cysylltu â ni | BusnesCymru (llyw.cymru) 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.