
Mae anogaeth i feddyliau entrepreneuraidd disgleiriaf Cymru fanteisio ar gyfle i gyflymu eu syniadau busnes. Bellach mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn derbyn ceisiadau am ei Raglen Cyflymydd Busnesau Newydd ymdrochol 10 wythnos arloesol, a gaiff ei lansio ddydd Mawrth 13 Mai 2025 ac sy’n dod i ben ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2025.
Mae'r rhaglen gwbl rithwir hon yn cynnig cymorth wedi'i theilwra i helpu cyfranogwyr i droi eu syniadau yn fusnesau cwbl weithredol. Trwy hyfforddiant wedi'i dargedu a dosbarthiadau meistr, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ddatblygu model busnes cynaliadwy a sicrhau eu cwsmeriaid cyntaf sy'n talu.
Bydd y sesiynau'n archwilio rhaglenni AI newydd sy'n hybu creadigrwydd, sy’n symleiddio ymchwil i'r farchnad a gwella effeithlonrwydd. Bydd y rhaglenni hyn yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr gystadlu mewn marchnad sy'n newid yn gyflym.
Mae'r cyflymydd yn agored i ddarpar entrepreneuriaid o Gymru sydd â syniadau busnes cyn-refeniw. I fod yn gymwys, dylai fod gan fusnesau y potensial i gyflawni dros £1 miliwn mewn trosiant blynyddol a chreu deg swydd amser llawn erbyn 2029, gyda chyfleoedd allforio. Mae cymorth ar gael i helpu i oresgyn rhwystrau rhagcymryd rhan, gan sicrhau hygyrchedd i bob ymgeisydd cymwys.
Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weminarau, dosbarthiadau meistr a mentora 1-i-1 gan fodelau rôl o fyd busnes ac arbenigwyr twf. Bydd rhwydweithio rhwng cymheiriaid yn helpu cyfranogwyr i adeiladu cysylltiadau, cael canfyddiadau a meithrin cydweithio. Bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus i godi eu proffiliau busnes. I gloi'r rhaglen mae digwyddiad gwobrwyo proffil uchel i ddathlu cyflawniad entrepreneuraidd.
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyflymydd Busnesau Newydd erbyn dydd Llun 31 Mawrth 2025. Bydd y rhaglen yn rhedeg o ddydd Mawrth 13 Mai 2025 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2025.
Gall darpar entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb drwy glicio ar y ddolen: Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru Mai 2025
Mae'r Cyflymydd Busnesau Newydd hwn yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Os nad yw'ch busnes yn barod ar gyfer y lefel hon o dwf, mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gyngor ac arweiniad ynghylch busnesau newydd a thwf busnes. I ddysgu rhagor a siarad ag ymgynghorydd arbenigol, ffoniwch 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg, neu ewch i Cysylltwch â ni | Busnes Cymru.