BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Banc pob dim' cyntaf Cymru yn darparu eitemau hanfodol i bobl mewn angen

Person working in a food bank

Mae menter newydd i ddarparu nwyddau hanfodol i aelwydydd sydd mewn cyni wedi cael ei lansio yn Abertawe.

Cafodd Cwtsh Mawr, 'banc pob dim' cyntaf Cymru, ei agor yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae banciau pob dim yn seiliedig ar y model banciau bwyd, ond maent yn darparu ystod ehangach o nwyddau nad ydynt yn ddarfodus, gan alluogi busnesau i ailddosbarthu eitemau sydd dros ben, heb eu gwerthu, i bobl am ddim.

Bydd Cwtch Mawr yn cael ei gefnogi gyda rhoddiadau gan Amazon a chwmniau eraill, gan gynnwys cadachau glanhau, eitemau ar gyfer y mislif, papur toiled, papur cegin a theganau. Disgwylir y bydd nwyddau cartref, bwyd, dillad, pethau ymolchi, dodrefn, dillad gwely, a nwyddau plant a babanod newydd, a rhai sy’n cael eu hailddefnyddio, yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Mae'r model banc pob dim yn annog busnesau i leihau gwastraff trwy greu banc o nwyddau cartref sydd dros ben. Mae Cwtch Mawr yn bwriadu rhoi dros 300,000 o nwyddau hanfodol sydd dros ben i 40,000 o deuluoedd mewn tlodi eleni.

Bydd Cwtch Mawr yn cael ei redeg gan yr elusen Faith in Families o Abertawe, gyda chymorth Gordon Brown ac Amazon, a gyd-sefydlodd y fenter ‘banciau pob dim.’ Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu'r prosiect, gyda chymorth arall yn dod gan bartneriaid lleol gan gynnwys Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl a Sefydliad Moondance.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Banc pob dim' cyntaf Cymru yn darparu eitemau hanfodol i bobl mewn angen | LLYW.CYMRU

Eisiau dechrau busnes sy'n gwneud gwahaniaeth? Gallwn eich helpu.

Credwn y gellir gwneud busnes yn wahanol. Gwyddom, drwy fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ei bod yn bosibl creu newid cadarnhaol ac adeiladu cymunedau cryfach, cyfoethocach.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnwys tîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu a chefnogi mentrau cymdeithasol: Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.