BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud y bydd pwerau newydd i ymdrin â llygredd aer a sŵn yn arwain at Gymru lanach, iachach a gwyrddach.

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ddydd Llun 20 Mawrth 2023, gan roi mwy o allu i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn.

Mae'r Bil newydd yn rhan o becyn o fesurau i wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru.

Bydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau hirdymor newydd ar gyfer ansawdd aer dan fframwaith cenedlaethol a fydd yn ystyried yr wybodaeth wyddonol ddiweddaraf gan gynnwys Canllawiau Ansawdd Aer Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd y Bil yn helpu i greu parthau allyriadau isel ar gefnffyrdd Llywodraeth Cymru lle bo angen, a bydd yn rhoi mwy o bŵer i awdurdodau lleol fynd i'r afael â cherbydau sy'n segura.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.