BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwyd a Diod Cymru – Rhaglen Mewnwelediad

Cawl

Mae'r Rhaglen Mewnwelediad yn darparu mewnwelediad diweddaraf i fusnesau bwyd a diod o Gymru i ddeall y farchnad manwerthu groser a marchnad bwydydd a gwasanaethau bwyd y tu allan i'r cartref yng Nghymru a Phrydain Fawr. Mae'r rhaglen yn darparu mewnwelediad marchnad allforio sy'n cwmpasu 50 o wledydd ledled y byd. Yn ogystal â data'r farchnad, mae'r rhaglen Mewnwelediad yn edrych ar dueddiadau a mewnwelediadau yn y dyfodol, i helpu busnesau Cymru i lunio eu cynlluniau i fodloni gofynion newidiol cwsmeriaid a defnyddwyr.

Cynhadledd Fewnwelediad 2024: O Her i Lwyddiant

Bydd Cynhadledd Flynyddol Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru 2024, "O Her i Lwyddiant", yn cael ei chynnal ar 12, 13, 19 a 20 Mawrth.  Bydd y Gynhadledd yn cynnwys prif siaradwyr o blith arweinwyr byd-eang enwog a chanddynt wybodaeth graff am ddefnyddwyr a marchnadoedd a byddant yn trafod pynciau fel yr economi, sgiliau, manwerthu, allan o'r cartref a datblygu cynhyrchion newydd. Archwiliwch sut y mae busnesau Bwyd a Diod Cymru wedi wynebu heriau busnes un llwyddiannus, gyda thrafodaethau panel ac astudiaethau achos.

Mae'r digwyddiad hwn ar agor i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhaglen Mewnwelediad | Business Wales - Food and drink (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.